Gwybodaeth Ymweld
Croeso! Gweler ein canllawiau diweddaraf
Ar agor Dydd Mawrth – Dydd Sul 10yb – 5.30yp (ar gau ar ddydd Llun)
Hygyrchedd
• Mae gan y Ganolfan Grefft faes parcio am ddim gydag wyth man parcio i bobl ag anableddau.
• Mae’r holl safle ar lefel daear gyda mynediad uniongyrchol i ddrysau awtomatig cyntedd y Brif Oriel (un o’r Cwrt a’r llall o’r fynedfa allanol o dref Rhuthun) a chyntedd y Caffi a’r Toiledau. Caiff ddrysau’r Ystafell Addysg a’r Stiwdios yn ein Cwrt eu hagor â llaw.
• Ceir toiled hygyrch yn y ddau gyntedd. Yn y prif gyntedd ceir toiledau merched a dynion ac mae gan y ddau gyfleustra newid babanod. Ceir toiled hygyrch ynghyd â Thoiled Rhywedd Niwtral yn ein Hystafell Addysg.
• Mae croeso i bob Anifail Cymorth ym mhob man ar ein prif safle (orielau a Chaffi). Rydym yn croesawu cŵn ym mhob man ar ein prif safle (orielau a Chaffi) hefyd.
• Ceir meinciau a seddau o amgylch y safle a’r orielau.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill ffoniwch ni ar 01824 704774 neu anfonwch e-bost at ruthincraftcentre@hamddensirddinbych.co.uk os gwelwch yn dda.
Edrychwch ar ein Map Safle yma
Byw Ynghyd â’r Coronafeirws
• Fel rhan o Byw Ynghyd â’r Coronafeirws mae Llywodraeth Cymru yn argymell gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoedd gorlawn dan do neu gaeau. Byddwch yn barchus o ddewisiadau pobl eraill, os gwelwch yn dda, pa un ai a ydyn nhw’n dewis gwisgo gorchudd wyneb neu beidio.
• Rydyn ni’n gofyn i chi barhau i olchi eich dwylo wrth ddod i mewn gyda’r gel saniteiddio a ddarperir.
• Cadw Pellter Cymdeithasol – Helpwch ni i barhau i gadw pawb yn ddiogel drwy gynnal pellter corfforol clir, pryd bynnag y bydd hynny’n bosib, oddi wrth gwsmeriaid a staff pan fyddwch chi yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.
Mae ein drysau ar agor ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i’r Ganolfan.