Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

I Ddod yn Fuan Oriel 1

Record Hir

Myfyrdod ar 33 blynedd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun 18 Ionawr – 30 Mawrth 2025

Dros dair blynedd ar ddeg ar hugain mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi gweld llawer o newidiadau. Yn ystod y cyfnod hwn mae Philip Hughes wedi cefnogi gyrfaoedd cannoedd o wneuthurwr ac wedi hyrwyddo Crefft Gyfoes yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Er mwyn nodi ei ymddeoliad yn 2025, mae’r arddangosfa hon yn dod â gwaith ymarferwyr dethol ynghyd sydd wedi arddangos yn Rhuthun yn ystod y cyfnod hwn. Mae ‘Record Hir’ yn cynnwys darnau gan rai o artistiaid wneuthurwyr gorau cerameg, metel, tecstil, pren, gwydr a gemwaith o’r ugeinfed ganrif hwyr ac yn gynnar yn yr unfed ganrif ar hugain.

Arddangoswyr: Jane Adam / Julie Arkell / Gordon Baldwin / Michael Brennand-Wood / Adam Buick / Simon Caroll / Lucy Casson / Mick Casson / Primmy Chorley / Kevin Coates / Mandy Coates / Emmanuel Cooper / Claire Curneen / Patia Davis / David and Margaret Frith / Julia Griffiths Jones / Rhian Hâf / Rozanne Hawksley / Catrin Howell / Nigel Hurlstone / Walter Keeler / Claire Langdown / Richard La Trobe-Bateman / Claudia Lis / Andrew Logan / Eleri Mills / Alison Morton / David Nash / Gregory Parsons / Jim Partridge & Liz Walmsley / Wendy Ramshaw / Pamela Rawnsley / Micki Schloessingk / Reiko Sudo / Laura Thomas / Audrey Walker / David Watkins / Yusuke Yamamoto / Helen Yardley