Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Stiwdio 2

Marian Haf

Golwg ar Wneuthurwr Print 5 Ebrill – 29 Mehefin 2025

Mae Marian Haf yn gweithio o’r stiwdio gardd yn ei chynefin yng Ngheredigion, gan gael ei hysbrydoli gan ei bywyd yng nghefn gwlad, a chyfathrebu syniadau yn ymwneud â chartref, cymdogaeth a chyd brofiad o hiraeth.

Caiff ei phrintiau eu cymryd o straeon o’r gorffennol a’r presennol ac mae’n codi ac yn ynysu geiriau o ganeuon gwerin Cymraeg a’u boglynnu ar bapur. Dylanwad arall yw carthenni traddodiadol Cymreig a’u hawgrym o gynhesrwydd domestig. Mae ei gwaith yn cyfleu’r ymdeimlad o berthyn sy’n gyfarwydd i  bawb, a’r awydd cyffredin i goleddu’r dyfodol wrth feithrin y gorffennol.