Gweithdy
Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi gyda Lowri Davies
Sadwrn 1 Mawrth 2025
10am–4pm
AM DDIM (mae angen archebu, lleoedd cyfyngedig sydd ar gael)
AM DDIM. Gallwch archebu drwy Eventbrite yma
Gweithdy: Patrwm arwyneb, gwaith cerameg a phrintio bloc
Ar gyfer oedolion
Ymunwch â ni ar gyfer dathliad Dydd Gŵyl Dewi arbennig gyda’r artist cerameg Lowri Davies. Ymdrochwch mewn gweithdy creadigol sy’n archwilio celfyddyd patrwm arwyneb, gwaith cerameg a phrintio bloc.
Mae’r gweithdy’n rhan o arddangosfa ‘Merched ar Lestri’ sy’n dathlu bywydau saith merch gyda chysylltiadau dwfn â Chymru. Daw’r merched hyn o ardaloedd, oedrannau a chefndiroedd amrywiol ar draws ein gwlad ac mae nhw’n ymgorffori tapestri diwylliannol cyfoethog ein cenedl. Mae’r arddangosfa a’r gweithdy’n cyd-fynd yn berffaith â dathliadau diwrnod cenedlaethol Cymru.
Cyllidir y gweithdy’n gyfan gwbl gan broject ‘Merched ar Lestri’ gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.