Stiwdio 2
Alex Duncan
Golwg ar Wneuthurwr PrintMORGLAWDD
Cafodd Alex Duncan ei fagu yn Abertawe lle mae’r môr a’r dirwedd arfordirol o’i hamgylch wedi bod yn ddylanwad pwysig ar ei waith. Mae’r panelau alwminiwm mawr sy’n creu arddangosfa MORGLAWDD yn dangos sgan manwl o’r morglawdd yn Abertawe, gyda theneuwch y defnydd yn achosi’r crymedd sy’n adlais o ‘adwyro’r wal goncrid wreiddiol. Mae effeithiau cynhesu byd-eang a chodiad yn lefelau’r môr wedi dylanwadu ar ffordd o feddwl Duncan ac mae’n nodi tra bod y waliau concrid yn cael eu codi’n aml fel amddiffynfa, maen nhw hefyd yn cael effaith negyddol ar fiodynamig gofodau’r cefnfor drwy beidio â chaniatáu ynni’r tonnau i anadlu allan.
Mae cyfres luniadau Marc Penllanw yn gofebau i lanwau a llifogydd eithriadol o amgylch y byd. Wedi’u lluniadu er mwyn adleisio wyneb rhwbiad, mae gan bob un o’r cofebion tawel hyn i gyd farc llinell lorweddol gyffredinol sy’n amlinellu awyr uwchben a dŵr islaw, gan amlygu, efallai, y berthynas fregus gyda natur.
Nid yw’r cerrig bach yn y lluniad mawr Adlif wedi eu darlunio o draeth ond o len cawod tad Duncan. Mae hyn yn parhau diddordeb yr artist mewn cwestiynu beth sy’n real a beth sy’n achosi i rywbeth ymddangos yn real ac mae wedi archwilio hyn mewn llawer o weithiau celf. Mae hyn yn cynnwys cerrig bychan Cildraeth sydd, mewn gwirionedd, yn ddarnau o ewyn polywrethan wedi’u treulio gan y môr ac a gasglwyd o’r traethau a’r asgwrn wedi’i cherfio o ‘ewin mochyn’.
Astudiodd Alex Duncan yng Ngholeg Celf Abertawe a’r Coleg Celf Brenhinol ac mae bellach yn dysgu Celfyddyd Gain, Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn PCYDDS yn Abertawe. Am ddeng mlynedd bu’n cynnal Artlacuna (stiwdios a gofod project ddim-er-elw yn Battersea, Llundain ac mae wedi arddangos yng Nghymru, Llundain) ac yn rhyngwladol, yn fwyaf diweddar yn arddangosfa Môr/Sea yn Pontio, Bangor.
Curadwyd gan Ann Jones