Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 2

Anne Kelly: Wedi Gweld y Byd

28 Mai – 17 Gorffennaf 2021

Mae Anne Kelly, yn eithaf llythrennol, yn un sydd wedi teithio’n eang. Cyn y pandemig roedd yn teithio ledled y byd: i ddysgu, arddangos, i weld teulu ac i chwarae. Mae ei gwaith tecstilau wedi’i nodweddu ers amser gan deithio: teithio o ran trenau, cychod ac awyrennau. Ond teithio hefyd o ran siwrneiau personol dros amser a thrwy hanes. Pan fydd hi’n gallu teithio, bydd Ann yn profi llawenydd enfawr ac ysbrydoliaeth gan leoedd newydd a phobl newydd. Bydd yn cadw llawer o lyfrau braslunio lle bydd yn casglu darnau a thameidiau, delweddau a syniadau. Ond pan fydd yn gwneud ei gwaith bydd yn hoff o ddechrau â darn o ffabrig – sgrap hyd yn oed – ac adeiladu ar hynny.

Mae Anne yn gasglwr (os nad yn gleciwr) broc môr sy’n berthynol i decstilau. Ond mae hefyd yn casglu atgofion; o leoedd y bydd wedi ymweld â nhw’n bersonol, wrth gwrs. Ond hefyd lleodd a golygfeydd y bydd wedi ymweld â nhw mewn arddangosfeydd, mewn llyfrau a ffilmiau. Bydd gwaith Anne yn ein hatgoffa y bydd y meddwl yn parhau i deithio, waeth beth fydd ein cyrff yn ei wneud. Yn Wedi Gweld y Byd mae’n dangos i ni gymaint o ffyrdd o ddathlu ein hatgofion ni a hithau o deithio, yn y gorffennol a’r dyfodol. Mae’n daith gymhleth, gyfoethog a hardd sy’n dathlu tecstilau, teithio, atgofion a gwneud.

Curadur: Jane Audas
Ffotograffi: Rachel Whiting