Gofodau Prosiect Cwrt A a B
Annie Morgan Suganami
Ar Wal………………………
Cyfres o gelfyddyd gain wedi’i saernïo
gan artistiaid Gogledd Cymru
Curadur y gyfres: Jonathan Le Vay
………………………
“Ar ôl cael arddangosfa wedi’i chanslo oherwydd cyfnod clo cyntaf y cofid ym mis Mawrth 2020 a heb wybod beth fyddai hynny’n ei olygu ynglÿn a gwaith, penderfynais anghofio am ofynion ‘deadlines’ am ychydig a gwario’n amser yn chwarae yn y stiwdio.
Ffrwyth gwaith y ddwy flynedd ddiwethaf yw’r arddangosfa hon, a dyna pam y teitl, ‘2020-22’, sef casgliad o fywyd llonydd a ffigurol o’r cyfnod hwnnw yn ogystal ag ychydig o’r portreadau yr oeddwn wedi’u peintio ar gyfer yr arddangosfa a gafodd ei chanslo.
Yn fy ymarfer cerddorol ac artistig rwy’n archwilio eu geirfa cyffredin; rhythm, gwead, dynameg, lliw a chyfansoddiad syn galluogi gwaith byrfyfyr. Mae’r eirfa hon yn bwydo fy ngwaith bywyd llonydd sy’n ganlyniad byrfyfyrio yn y stwidio. Mae fy ngwaith ffigurol yn seiliedig ar ffigurau real a dychmygol.
Mae fy mheintiadau yn aml yn cael eu gweithio a’u hail-weithio, paentiadau newydd wedi’u haenu dros hen farciau. Er gwaethaf archwilio gwaith anffigurol, mae’n raid i mi ddychwelyd yn rheolaidd i baentio cymeriadau sy’n deillio o onestrwydd, dycnwch, gwydnwch, caredigrwydd – eiconau personol o ddygnwch mewn cyfnod ansicr.”
Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu