Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

Arlunio Cyflinellau

Pauline Burbidge & Charles Poulsen 9 Ebrill – 10 Gorffennaf 2022

Y tro cyntaf i Pauline Burbidge a Charlie Poulsen arddangos eu gwaith gyda’i gilydd oedd yn 1993 yn Oriel Angel Row, Nottingham yn ‘Joining Forces’. Yn yr un flwyddyn, fe wnaethon nhw briodi a symud o Nottingham i fferm ar Ororau’r Alban. Yno mae eu hegni cyfunol wedi treulio blynyddoedd yn creu lle i fyw ynddo ac i ymarfer. Cartref, stiwdio, gardd, oriel: nid oes yna unrhyw raniad rhwng un a’r llal yn Allanbank Mill Steading.

‘Bydd boreau’n cael eu neilltuo’n aml i arlunio.’ (PB) ‘Byddaf yn arlunio o’r gaeaf i’r gwanwyn.’ (CP). Mae braslyfrau’n hanfodol, y man cychwyn ar gyfer gwaith. Mae astudiaethau Pauline yn ffurf ar feddwl gweledol sydd wedi’i wreiddio mewn arsylwi. Bydd Charlie’n ceisio cipio nerthoedd ac elfennau anweledig â’r cynrychioliadol wedi’i osgoi’n ymwybodol hyd yn oed yn ei ffordd o roi teitl i waith. Bydd y ddau’n defnyddio persbectifau wedi’u fflatio, fel map ac yn graddio darluniadau cychwynol i fyny i greu gweithiau celf sy’n amgau’r gwyliwr. Bydd y cynnydd mewn maint yn trochi’r artist yn gorfforol yn y gwaith, yn symud pifod y symudiad o’r garddwrn i’r fraich. Fe ychwanegir llinell at linell, haen at haen. Mae’r ymgysylltiad yn llwyr. Bydd hyn yn golygu disgyblaeth, gofyniad, a wrthdroir gan ddymuniad paralel i hepgor. ‘Mae fy ngwaith i’n cael ei yrru gan broses. Byddaf yn chwarae gemau â’r gridiau y byddaf yn eu marcio mewn pensil. Gall fod fel arlunio awtomatig. Caiff fy ngwaith i ei yrru i raddau helaeth gan broses. Mae’n frwydr gyson rhwng fy hunan i sy’n fwy trefnus a dymuniad i fod braidd yn wyllt.’ (CP). ‘Mae’r elfen ddwyochrog o’m cwiltiau i’n bwysig. Allaf i ddim peidio â dangos y cefn. Weithiau mae’n well gen i o gan fod y pwytho’n isymwybodol.’ (PB)

Curadwyd gan June Hill