Oriel 1 & 2
Basgedwaith: Achub, Adfywio, Cadw
Basgedi Traddodiadol yn Ynysoedd PrydainMae basgedwaith yn Ynysoedd Prydain heddiw yn gyfoethog ac yn amrywiol. Gyda chyfuniad o wybodaeth, sgiliau a dulliau ymarfer, mae’n cwmpasu ystod eang o ddefnyddiau, ffurfiau, technegau a dylanwadau diwylliannol. Mae Traditional Basketry Project (TBP) y Basketmakers’ Association, mewn partneriaeth â Heritage Crafts, yn ymdrechu i achub, adfywio a chadw sgiliau a hyrwyddo gwybodaeth ynglŷn â thraddodiadau basgedwaith y DG. Mae’r prosiect hwn bellach yn creu adnodd canolog y gellid dysgu ohono a’i ddefnyddio i oleuo ac addysgu’r genhedlaeth bresennol a’r nesaf o wneuthurwyr basgedwaith.
Mae Canolfan Grefft Rhuthun a’r curadur gwadd Gregory Parsons wrth eu boddau yn gweithio gyda TBP y Basketmakers’ Association i ddod â phedwaredd arddangosfa’r grefft dra hynafol hon i Gymru.
Arddangoswyr: Nadine Anderson / Fiona Arnold / Bunty Ball / Ewen Balfour / Terry Bensley (historic) / Rachel Bower / Martin Buckle (historic) / Justine Burgess / Hilary Burns / Mary Butcher MBE / Selena Chandler / Mandy Coates / Angela Cole / John Cowan / Jenny Crisp / Alisha Davidson / Colette Davies / DJ Davies (historic) / Mark Dellar / Samantha Dennis / François Desplanches / Peter Dibble / Eve Eunson / Rachel Evans / Rosie Farey / Angela Firth / Alison Fitzgerald / Sophie Francis / Rachel Frost / Claire Gaudion / Max Gaudion / Lewis Goldwater / Sally Goymer (historic) / Matilda Grover / Jo Hammond / Ciaran Hogan / Ironbridge Coracle Trust (historic) / Dai James (historic) / Tim Johnson / Gill Jones / Sue Kirk / Rob Knight / Sarah Le Breton / Mary Lewis / Anna Liebmann / Julie Livesey / Lin Lovekin / Veronica Main MBE / Michelle Mateo / Colin Manthorpe (historic) / Sue Morgan / Jane Morgan and Noreen Kemp / Daniel Neal / Lawrence Neal / Déa Neile-Hopton / Niwbwrch Marram Project / Annemarie O’Sullivan / Dominic Parrette / Carol Partridge / Jo Porter / Lewis Prosser / Clare Revera / Clare Shilvock / Lorna Singleton / Leslie Smith / John Williamson / Lois Walpole / Alan Winlow
…………….
Mae arddangosfa ‘Basgedwaith: Achub, Adfywio, Cadw’ yn ffurfio rhan o waith parhaus Traditional Basketry Project y Basketmakers’ Association gyda chefnogaeth The Worshipful Company of Basketmakers a’i gwireddu mewn partneriaeth â Heritage Crafts.
Basgedwaith: Achub, Adfywio, Cadw yn arddangosfa deithiol yn amlygu dyluniadau, sgiliau a thechnegau basgedwaith traddodiadol yn Ynysoedd Prydain. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
…………….