Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1 & 3

Basgedwaith

20 Gorffennaf – 13 Hydref 2019

Swyddogaeth ac Addurniad 

Laura Ellen Bacon, Lise Bech, Dail Behennah, Mary Butcher, Mandy Coates, John Cowan, Mary Crabb, Jane Crisp, Jenny Crisp, Alison Dickens, Lizzie Farey, Rosie Farey, Eddie Glew, Charlie Groves, Stella Harding, Joe Hogan, Peter Howcroft, Tim Johnson, Anna King, Annemarie O’Sullivan, Rachel Max, Sarah Paramor, Dominic Parrette, Polly Pollock, Ruth Pybus & David Brown, Clare Revera, Lorna Singleton, Maggie Smith, Lois Walpole

Yn grefft wirioneddol hynafol, mae Basgedwaith yn dal i lynu at ei egwyddorion sylfaenol a’i ddulliau adeiladu, er mewn ffurfiau aneirif. Bydd ymarferwyr cyfoes yn cyfuno defnyddiau a dulliau ac yn defnyddio ffyrdd o wneud sy’n draddodiadol ac yn fodern a hynny gydag effaith ysblennydd. Basgedwaith: Mae Swyddogaeth ac Addurn yn edrych ar arfer cyfredol tua deg ar hugain o wneuthurwyr o’r DU drwyddi draw. Mae’n dod â gwaith brodorol swyddogaethol at ei gilydd o wahanol rannau o’r wlad, ochr-yn-ochr â darnau sy’n gerfluniol ac yn addurniadol. Mae’n arolwg o grefft sydd wedi ei diystyru braidd ar adegau o gynnydd technolegol mawr, ac eto mae’n cynnig ateb cynaliadwy i gymaint o’n harferion modern gwastraffus.

Curadur: Gregory Parsons.