Oriel 2
Bethan M. Hughes
Pwytho LlaisCasgliad o waith tecstil sy’n archwilio themâu yn ymwneud â democratiaeth, gwleidyddiaeth, hunaniaeth a chymuned yw Pwytho Llais gan Bethan Hughes. “Mae llawer o’r cwiltiau’n cynnwys y marc o groes fach rydyn ni’n ei wneud a hynny am nifer o resymau, ac rwyf wedi canolbwyntio ar ei symbolaeth o’r bleidlais a’r gusan.”
Mae ‘na angerdd yn y cwiltiau hyn.
Mae yma lafur cariad – at genedl, at gymuned ac at iaith.
Sylwch yn ofalus ar y cwiltiau. Ar y geiriau sydd wedi eu hargraffu. Clustfeiniwch ar sŵn y pwythau’n siarad wrth iddyn nhw sgwennu’n brysur ar draws y tudalennau meddal. Gwrandwch ar y twrw tawel…
Mae’r cwiltiau hyn yn sgwrsio â ni, os dewiswn ni wrando.
Y Prifardd Elinor Gwynn