Arddangosfa Oriel Werthu
Björk Haraldsdóttir
Mae fy nghefndir proffesiynol i mewn pensaernïaeth yn ddylanwad cryf ar fy ngwaith i ac fe fu’n ffurfiannol o ran y ffordd y byddaf yn llunio. Byddaf yn cyffelybu fy ngwaith i bensaernïaeth fechan heb unrhyw gyfarwyddyd a dim cleient.
Mae ffurf a phatrwm yn bwysig yn unigol ac yn gyfartal ac fe ddiffinnir fy ngwaith i gan ryngweithiad y priodweddau hyn sy’n wahanol iawn. Mae yna amwysedd yn y darnau gyda’r patrwm yn gweithredu i guddwisgo siâp y llestr. Bydd math y patrwm yn altro’n sylweddol y canfyddiad o eometreg darn a bydd unrhyw siâp sylfaenol penodol yn ymddangos yn ddramatig wahanol pan roddir iddo batrymau gwahanol. Bydd canlyniad olaf darn yn sefydlu sgwrs weledol rhwng ffug-berffeithrwydd patrwm geometrig ac amhuredd cyffyrddol clai fydd wedi’i lunio â llaw.
Mae natur gyffyrddol fy ngwaith i’n fwriadol: yn wahoddiad i gyffwrdd. Byddaf yn gweithio’n gyson ar bob darn yn ‘gwneud pwythau’ neu linellau o wehyddiad a bydd y canlyniad yn aml yn ymddangosiad fel brethyn. Mae’r marciau crafu’n weledol a’r arwyneb yn blân o gerfwedd bas, fel braille coeth neu dapestri.
Mae’r gweithiau i gyd ar gael i’w prynu