Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Stiwdio 2

Blwch Dewis

25 Chwefror – 14 Mai 2023

I lawer ohonom ni mae bod yn berchen ar gasgliad celf yn ymddangos y tu hwnt i’n cyllideb a’n gofod arddangos hefyd. Amcan Blwch Dewis Galerie Simpson yw gwyrdroi’r dybiaeth hon. Fel bocs siocled mae’r Blwch Dewis yn cynnwys detholiad o ddanteithion i dynnu dŵr o’r dannedd, gyda rhywbeth at ddant pawb. O waith dyfrlliw, toriadau leino, printiau sgrîn a cherfluniau bychan hyd yn oed mae’r Blwch Dewis yn adlewyrchu’r amrywiaeth eang o gelfyddyd a grëir ym Mhrydain heddiw. Datblygwyd y Blwch Dewis gan yr artist Jane Simpson sy’n cadw’r oriel ac mae’r arddangosfa wedi helpu codi arian ar gyfer gofod celf annibynnol Arlunydd Galerie Simpson yn Abertawe.

Arddangoswyr
Fiona Banner, Sir Peter Blake, Angela de la Cruz, Abigail Fallis, Tom Gidley, Georgie Hopton, Rachel Howard, Des Hughes, Gary Hume, Catrin Saran James, Michael Landy, Simon Periton, Jamie Reid, Jane Simpson, Sarah Staton, Gavin Turk, Rachel Whiteread, Clare Woods.