Oriel 3
Catrin Howell
Wedi ei geni a’i magu ar fferm yng ngorllewin Cymru fe deimla’n naturiol, neu hyd yn oed yn anochel, fod anifeiliaid yn rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith Catrin. Mae ganddi ddiddordeb mewn rôl anifeiliaid mewn mytholeg, y modd maent yn cael eu defnyddio i gyfleu naratif, hynafol a chyfoes. Mae’r corff newydd hwn o waith gan Catrin, sy’n cael ei ddangos gyntaf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, yn dilyn cyfnod dwys yn y stiwdio.