Oriel 2
Chris Bird-Jones
rydym i gyd yn fregusFe ddechreuodd y syniadau ar gyfer ‘Llwyau Arian’ egino yn ystod preswyliad llysgennad Cymru Greadigol yn Hawaii yn 2015 ac mewn preswyliad yn Rhuthun y flwyddyn ddilynol. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf fe arweiniodd fy nghyfaredd i â chyffredinolrwydd y llwy a’r ffordd y byddwn ni i gyd yn cysylltu â hi drwy gydol ein bywydau at ymchwil pellach, gwrando ar straeon pobl a chwarae â llwyau. Gall y siâp llwy, â phen powlen a handlen corff, gyfeirnodi ffurf ddynol ac o fod wedi’i wneud o wydr bregus gall adleisio ein cyflwr ni – rydyn ni gyd yn fregus. Mae’r ‘Saith Llwy Arian’ wedi’u gwneud o wydr chwyth, maen nhw’n wag ac â drychau ar y tu mewn. Byddwn yn cael cipolwg arnom ni ein hunain yn yr arwynebau adlewyrchol. Mae cydio ynddyn nhw a’u crudo teimlo’n dda, gan ddiogelu’n dyner bwysau a breuder pob darn. Pan fyddan nhw ond yn bod bydd gan bob llwy eu bocs eu hunain wedi’u llunio â llaw i orffwys arno neu o’i fewn. Yn yr arddangosfa mae’r darnau hyn wedi’u hamgylchynu gan y sain rythmig amgylchynol a grëir â chwarae gwydr yn ‘Silver Lined’ sef ffilm sy’n suo’r ystafell a’r synhwyrau.
Mae ‘Juicy Spoons’ yn dod hefyd â’u siapiau cromlinog a’u lliwiau enfys. Mae yna egni o fewn y darnau tryloyw unigol hyn sy’n rhyngweithio’n rhwydd â’r golau – maen nhw’n unigolion lliwgar, yn ffrwythus ac yn hwyl. Mae darnau eraill yn cynnwys y ‘Llwy handlen hir arddunol i lymeitian â’r diafol’, y ‘Tystion’ tawel crog yn cylchdroi yn yr awel, yn cipio popeth, ‘Gefeilliaid’ yn cyrlio gyda’i gilydd ‘Un’ a’r gyfres ‘Cylchoedd’ o wydr tawdd wedi’u ffurfio â llaw. Mae’n gyffrous i mi ddod â’m teulu o Lwyau Arian a’u ffrindiau i Ruthun.
Yn wreiddiol o Llangollen, artist sy’n byw yn Abertawe yw Chris sy’n gweithio’n bennaf, er nid yn unig, gyda gwydr. A hithau wedi astudio yn Ysgol Gelf Abertawe a’r Coleg Celf Brenhinol, mae ei gwaith proffesiynol wedi cwmpasu comisiynau pensaernïol, prosiectau cydweithredol rhyngwladol, mentrau cymunedol a sawl arddangosfa. Yn ogystal ag arwain cyrsiau gwydr academaidd yn Wrecsam, Wolverhampton ac Abertawe, mae Chris wedi darlithio a mentora ym mhob cwr. Yn sgil derbyn un o Ddyfarniadau mawr eu bri Llysgennad Cymru Greadigol ychydig flynyddoedd yn ôl cafodd Chris amser i edrych ar syniadau a phrosesau sydd wedi siapio ei gwaith dros amser maith.