Oriel 3
Claire Langdown
O Fewn y Graen – Straeon mewn PrenYn unigryw mewn steil a naratif bu gwaith cerfwedd pren Claire Langdown yn amlwg mewn arddangosfeydd unigol a grŵp o ddiwedd y 70’au hyd y 90’au pan fu raid iddi ro’r gorau i gerfio. Bydd yr arddangosfa’n taflu ciplolwg arbennig ar gorff o waith sy’n parhau’n ddigymar. Gyda chyffyrddiad sicr a sensitif roedd Langdown yn creu gweithiau cynnil, wedi’u gwreiddio ym mywyd pob dydd gan ymateb i bethau o’i chwmpas, o wrthrychau fel parseli, dillad a chaniau wedi’u gwasgu i dudalennau comics a blwyddlyfrau plant. Mae ffenestri a llenni yn bwnc cyson, yn dal symudiad ac ennyd o amser, gyda golygfaon i mewn ac allan o fynedfeydd a ffenestri yn rhoi cipolwg ar fywyd o ddydd i ddydd ac allan i’r byd ehangach.
Yn byw ym Mlaenau Ffestiniog ers y 70au cynnar dangosir detholiad o baentiadau a lluniadau diweddar Claire Langdown ochr yn ochr â’r cerfio pren.
Curadwyd gan Nia Roberts