Digwyddiad Cwrt
Cymanfa’r Adar – Y Gylfinir a’r Carfil Mawr: Canfod Gobaith
Yn cwblhau cylchdro mudo i nodi Diwrnod Gylfinir y BydMae Cymanfa’r Adar yn weithred o eiriolaeth greadigol dros natur a grëwyd gan yr artist a’r animeiddiwr Sean Harris gyda llu o gydweithredwyr.
Digwyddiad AM DDIM
Gan gymryd y gylfinir, sydd ar y rhestr goch a’r carfil mawr sydd wedi mynd i ddifancoll, fel prif lysgenhadon, ffurfiwyd Y Gymanfa yn nhirweddau ucheldir gogledd-ddwyrain Cymru. Cafodd ei fireinio yng ngofod project Canolfan Grefft Rhuthun a datblygodd i fod yn ddau waith animeiddio wedi’u taflunio Gylfinir a 1844, a deithiodd i Senedd Cymru yn hydref 2023, gan ymgorffori sbesimenau o rywogaethau diflanedig o gasgliad Amgueddfa Cymru.
Bellach mae’r gwaith yn dychwelyd i Ganolfan Grefft Rhuthun i nodi Diwrnod Gylfinir y Byd gyda dangosiad o’r ddau ddarn taflunio yn y cwrt ynghyd â chyfres o sgyrsiau a chyflwyniadau.
………………..
DIGWYDDIADAU
Gwener 25 Ebrill
7.30pm–8.30pm
Sgwrs: Mae Samantha Kenyon, Swyddog y Gylfinir a Phobl Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnig cipolwg ar y gwaith a wneir yn y gymuned amaeth a thu hwnt i warchod y gylfinir a’r cyfan mae’n ei gynrychioli fel ‘rhywogaeth ambarél’.
Sean Harris: ‘Adar Gobaith a Chof’
Gan gymryd tri sbesimen tacsidermi a sypyn o blu’r garan o Wastadeddau Gwlad yr Haf yn ganolbwynt, mae Sean yn ystyried sut gallwn ni feithrin y synnwyr o obaith a rhyfeddod. Mae’n edrych yn ôl ar sut mae’r rhain wedi’u hamlygu yn y project a sut mae’r hyn rydyn ni’n ei alw’n ‘gelf’ yn mynegi a chadarnhau ein perthynas â’r tir.
Trafodaeth i ddilyn
8.30pm–9.30pm
Tafluniadau yn y cwrt: Gylfinir ac 1844
Gallwch archebu drwy Eventbrite yma
………………..
DIGWYDDIADAU
Sadwrn 26 Ebrill
7.30pm–8.30pm
Sean Harris: Nodiadau a chreiriau o’r cylchdro mudo
Mae Sean yn ystyried yr ymchwil creadigol dwy flwydd hwn ac yn rhannu detholiad o ganfyddiadau gyda golwg arbennig ar hanesion cyferbyniol y carfil mawr a’r gylfinir o Gymru, Gwlad yr Iâ, a Newfoundland.
Mae’r sgwrs yn cynnwys dangosiad o ffilm fer yr awdur a’r anthropolegydd yr Athro Gisli Palsson. Cafodd gyfrol Gisli o 2024 ‘The Last of its Kind: The Great Auk and the Discovery of Extinction’ ei chynnwys ar restr fer Gwobr Ysgrifennu am Wyddoniaeth y Gymdeithas Frenhinol.
Ceir gobaith yn y straeon mwyaf tywyll.
Trafodaeth i ddilyn
8.30pm–9.30pm
Tafluniadau yn y cwrt: Gylfinir ac 1844
Gallwch archebu drwy Eventbrite yma
………………..