Gofodau Prosiect Cwrt A a B
Sean Harris: Cymanfa’r adar • Llais y Gylfinir
Prosiect preswylio
Gylfinir • Carfil Mawr
Mae pobl wedi dod ynghyd drwy gydol hanes i anrhydeddu’r tir drwy greu a rhannu gwrthrychau hardd. Drwy ei breswyliad, gan ddefnyddio animeiddio yn ddyfais a dwy rywogaeth aderyn eiconig yn lens – y gylfinir a’r carfil mawr – dyna’n union yw dyhead Sean Harris.
Ysgrifenna Sean…
Ni a natur yn un. Os ydi natur yn nychu, dyna sy’n digwydd i ni hefyd. Bydd hi bob amser yn taro nôl. Nid oes un ohonom ni, pa bynnag mor gyfoethog, yn gallu cuddio rhag ei grym. Ydyn ni’n gallu parhau fel hyn, yn gynyddol cloddio a disbyddu ein ‘adnoddau naturiol’? Na. Nid ydyn ni’n gallu goroesi fel rhywogaeth ar ein pen ein hunain. Oes modd i ni addasu? Mae’r gylfinir, sy’n llithro tuag at ddifodiant – rhagwelir y bydd yn diflannu o Gymru ymhen degawd – yn codi’r cwestiwn hwn ar frys. Hwn yw negesydd ein tranc. Drwy ddull y gwyddom amdano mae hanes y carfil mawr yn tynnu sylw clir ato. Ydyn ni’n gallu ateb cri’r gylfinir? Wrth gwrs rydyn ni. Rydyn ni’n glyfar. Mae llawer i stori obeithiol ynghylch y pethau da rydyn ni’n eu cyflawni a’r gwahaniaeth cadarnhaol rydyn ni’n ei wneud pan rydyn ni’n dewis.
Yn yr un modd ag animeiddio fesul ffrâm, gweithredoedd bychain lluosog sy’n dod ac yn cynnal bywyd. Ac, fel mae’r carfil mawr a’r gylfinir yn dangos i ni, mae ein gweithredoedd fel unigolion yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol.
‘Animals are good to think (with)’. Claude Lévi-Strauss.