Stiwdio 2
David Nash
Clogfaen PrenY Clogfaen Pren yw un o weithiau enwocaf David Nash. Y flwyddyn 1978 oedd man cychwyn y gwaith pan ofynnwyd iddo symud derwen oedd wedi’i ddifrodi ger ei gartref ym Mlaenau Ffestiniog. Cerfiodd siâp sfferig o’r golfen oedd wedi ei dymchwel a phenderfynu ei symud i’w stiwdio gan ddefnyddio nant gyfagos i’w thywys. Yno cychwynnodd berthynas barhaus dros ddeugain mlynedd a mwy yn dilyn a darlunio ei siwrnai a’i ddiflaniadau yn yr afon Dwyryd. Mae’r arddangosfa’n cynnwys lluniau â film o’r clogfaen a’i siwrnai sydd wedi dwyn troeon annisgwyl a niferus dros y blynyddoedd. Y cyntaf oedd y modd adweithiodd y tanin yn y dderwen gyda’r haearn yn y dŵr, gan ei droi’n ddu mewn cyferbyniad â’r dyfroedd ewynnog. Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei symud gan rym y dŵr, weithiau’n sefyll yn yr unfan am gyfnod, ac yna, ar adegau eraill, yn diflannu am flynyddoedd.
Un o artistiaid uchaf eu parch yng Nghymru yw David Nash. Etholwyd ef i’r Academi Frenhinol dros ugain mlynedd yn ôl a derbyniodd OBE am ei wasanaeth i’r celfyddydau. Mae wedi arddangos yn rhyngwladol gan gynnwys arddangosfeydd unigol pwysig ym Mharc Cerflunwaith Swydd Efrog, Gerddi Kew ac Amgueddfa Cymru. Ceir ei waith mewn dros 80 casgliad cyhoeddus ledled y byd. Mae’r arddangosfa hon yn Rhuthun yn cyd-daro ag arddangosfeydd yn Galerie Lelong ym Mharis ac oriel Annely Juda yn Llundain.
Curadwyd gan Ann Jones