Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 3

Eleanor Glover

wedi'i guddio yno yn rhywle – ôl-weithredol 28 Medi 2024 – 12 Ionawr 2025

Coed yw prif ddefnydd yr artist/gwneuthurwr Eleanor Glover ond mae defnyddiau eraill yn cael eu defnyddio er mwyn cadarnhau’r syniadau a fynegir. Mae elfennau naratif a throsiadol yn datblygu drwy’r broses o greu a chaiff dylanwadau eu tynnu o’i phrofiadau ei hun a’i arsylwadau o fywyd o’i chwmpas, o farddoniaeth ac o lenyddiaeth. Mae hi wedi addysgu yn eang fel darlithydd hŷn mewn dylunio graffig a thecstilau ar lefel gradd ac fel tiwtor gwadd i ddysgwyr hŷn. Yn ddiweddar mae wedi ymgymryd â gwaith therapiwtig mewn cyd-destun cymunedol gydag oedolion a phlant: mewn carchardai, hosbisau, unedau seiciatrig, ysbytai, meddygfeydd, a chartrefi gofal. Mae hi wedi datblygu’r defnydd o Gelfyddyd Lyfrau a Theatr Gysgodion fel cerbydau i symbylu naratif a dal straeon personol.

Curadwyd gan Mary La Trobe-Bateman