Stiwdio 6
Elin Hughes
Cyfres Porthol Serameg…………….
Cyfres o waith crefft mewn ffocws gan
wneuthurwyr serameg Cymreig
Curadur y gyfres: Wendy Lawrence
…………….
Yn wreiddiol o Ddolgellau, graddiodd Elin o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2019 gyda BA Cerameg. Ers hynny mae hi wedi arddangos ar lwyfannau niferus yn y DG, gan gynnwys Gwobr Gelfyddyd Meistr Ifanc y Cynthia Corbett Gallery (2019), Ffair Gelfyddyd Collect yn Llundain (2023) ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru pan enillodd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc (2022). Yn 2023 dyfarnwyd grant ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru iddi a hynny i ymgymryd â phrentisiaeth 18 mis gyda’r crochenydd tân coed Simon Levin yn Illinois, UDA. Mae’r casgliad hwn o lestri yn dogfennu gwaith ei misoedd olaf yn yr Unol Daleithiau. Thunder Train | Trên Taranau
‘Gyda choed yn unig ffynhonnell tanwydd, mae’r potiau hyn yn dangos potensial trawsffurfiol tân i greu effeithiau cyfoethog ac enigmatig ar eu hwyneb. Mae’r broses danio hir yn cymryd dyddiau o waith tîm a chydweithio gyda gwneuthurwyr eraill, gan arwain at gyfeillgarwch newydd a rhannu profiadau a straeon. Mae’r detholiad hwn o waith yn dechrau dal ychydig o gynhesrwydd y profiad cymunedol sy’n cael ei rannu.’
Mae’r gweithiau ar gael i’w prynu