Oriel 3
Gemau Coron Amgen
Andrew Logan
Mae cynnyrch meddwl yr artist Andrew Logan, y Miss World Amgen yn draddodiad 46 oed ymysg y gymuned fyd-eang.
Mae’n dathlu’r gwahanol ac yn diffinio’r newydd.
Ers 1972, mae’r artist Andrew Logan wedi cynnal ei basiantau enwog, yn denu cynulleidfaoedd a chystadleuwyr byd-eang, pryd bynnag y bydd yn teimlo fod yr amser yn briodol. Ar gyfer 2018 y thema yw Heddwch Seicedelig. Meddai Logan: ‘Mae’n ymwneud â Heddwch a Chariad tuag at Ddynoliaeth.’
Ar gyfer 2018 bydd y digwyddiad yn dychwelyd i ‘Shakespeare’s Globe’ yn Llundain ar ddydd Sadwrn, Hydref 20fed ac mae’r tocynnau eisoes wedi’u GWERTHU I GYD. Fodd bynnag, yma yn Rhuthun yr haf hwn fydd eich cyfle chi i ‘sleifio cipolwg’ ar ysblander eithaf eleni i’r enillydd ynghyd â detholiad o rai o’r regalia ‘Miss World’ Amgen (coronau, teyrnwiail a chronellau yn ogystal â mantelli ysblennydd).