Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel CELF

Gwaith cerameg o Gasgliad Anita Besson

curadwyd gan Rhiannon Gwyn 5 Ebrill – 15 Mehefin 2025

Ganwyd Anita Besson yn y Swistir ac ymgartrefodd ym Llundain yn 1956. Agorodd Galerie Besson ym Llundain yn 1988, wedi gweithio i orielau celf gain ym Llundain ers 1961. Tyfodd Galerie Besson yn oriel dylanwadol iawn, y gyntaf yn Bond Street i ddangos cerameg fel celfyddyd gain. Caeodd yr oriel ym 2011, wedi cynnal bron i 250 o arddangosfeydd.

Dim ond gwaith yr oedd hi’n ei garu gâi le yn arddangosfeydd Anita Besson. Ochr yn ochr â’I ffefrynnau, Lucie Rie a Hans Coper, roedd yn bleser ganddi ddangos gwaith artistiaid anghyfarwydd ac o bedwar ban byd, o Ewrop ac Asia, Awstralia a’r Unol Daleithiau. Daeth llawer o artistiaid yn ffrindiau agos, a’u gweithiau nhw yw’r rhan fwyaf o’I chasgliad personol sylweddol.

Prynodd Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams ill dwy weithiau cerameg pwysig oddi wrth Galerie Besson. Roedd Anita Besson wedi’i chynhyrfu gan ddatblygiad uchelgeisiol y casgliad cerameg yng Nghaerdydd, a phenderfynodd adael ei chasgliad ei hun i Ymddiriedolaeth Derek Williams yn gymynrodd fel y gellid ei ddangos i’r cyhoedd.

Cymynroddwyd y cerameg yn yr arddangosfa hon gan Anita Besson i Ymddiriedolaeth Derek Williams, ar fenthyg i Amgueddfa Cymru.