Gofodau Prosiect Cwrt A a B
Gwobr Goffa Eirian Llwyd 2022
Bydd arddangosfa o waith yr arlunydd Eirian Llwyd a aned yn Ninbych yn agor yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar y 24ain o Fehefin. Roedd Eirian, a hanai o Brion, yn wneuthurwr printiadau medrus a dawnus ar ôl perffeithio ei chrefft o dan Tom Piper yn Ysgol Gelf enwog UWIC sydd bellach yn rhan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn ystod ei bywyd bu i Eirian arddangos mewn orielau ledled Cymru, ac yn dilyn ei marwolaeth annhymig yn 2014 dangoswyd ei gweithiau yn y Senedd yng Nghaerdydd ac Oriel Môn. Roedd yn eiriolwr ymroddedig ac angerddol dros argraffiadau gwreiddiol fel ffurf ar gelfyddyd a hyrwyddodd waith gwneuthurwyr printiau Cymreig yn rhyngwladol ym Mrwsel ac Amsterdam.
Byddai Eirian wedi bod wrth ei bodd yn gweld ei gwaith yn cael ei arddangos yn agos at ei chartref. Roedd hi’n caru Dyffryn Clwyd yn angerddol. Er iddi ymgartrefu ym Môn ar ôl 1985, dychwelodd adref yn aml i Brion lle bu’n cael ei hysbrydoli gan deithiau cerdded ar fferm y teulu neu goedlan Coed y Felin yn enwedig pan oedd clychau’r gog yn eu blodau.
Mae’r gweithiau yn yr arddangosfa yn cynrychioli ei phrif gorff o waith, gan gynnwys rhai dyfrlliwiau cynnar, ei phrintiadau yn ystod ei dyddiau fel myfyriwr a gwaith aeddfed diweddarach wrth iddi ddatblygu a pherffeithio ei chrefft.
Cronfa Goffa
Yn dilyn ei marwolaeth, sefydlodd ei theulu Gronfa Goffa yn ei henw. O dan nawdd y gronfa a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, rhoddir dyfarniad blynyddol i wneuthurwr printiadau sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru i’w alluogi ef neu hi i ddatblygu eu sgiliau.
Yn ogystal, bydd enillwyr y gwobrau blaenorol: Léa Sautin, Rhi Moxon, Gethin Ceidiog Hughes a Susan Milne yn dangos eu gwaith ochr yn ochr â phrintiau Eirian.