Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Stiwdio 6

Ian Marsh

Cyfres Porthol Serameg 5 Ebrill – 29 Mehefin 2025

…………….

Cyfres o waith crefft mewn ffocws gan
wneuthurwyr serameg Cymreig
Curadur y gyfres: Wendy Lawrence

…………….

Dysgais Fathemateg yn Lerpwl a Swydd Efrog am 30 mlynedd ac roeddwn yn Bennaeth Technoleg Gwybodaeth. Ar ôl ymddeol yn gynnar dyma ymhél â chrochenwaith ac rwyf wedi bod yn creu am y 25 mlynedd ddiwethaf.

Wedi gadael dysgu, gweithiais ochr yn ochr gan y ceramegydd Jim Robinson a chael fy mentora ganddo ac yna ysgrifennu’r A&C Ceramics Handbook “Slab Techniques” ar y cyd ag ef.

Golygais y Northern Potters Newsletter am bum mlynedd ac roeddwn i’n Gadeirydd ar y gymdeithas am ddeunaw mis cyn symud i Gymru pedair blynedd ar ddeg yn ôl. Fel aelod o Grochenwyr Gogledd Cymru, cynrychiolais y gymdeithas fel cyfarwyddwr i’r Ŵyl Ryngwladol Cerameg yn 2019 a chyn hynny fi oedd y ffotograffydd swyddogol ar ddau achlysur yn 2015 a 2017.

Ar hyn o bryd rwy’n aelod o Oriel y Crochenwyr yng Nghonwy ac artistiaid Celf Aran yn Nolgellau. Yn y gorffennol rwyf wedi arddangos mewn Potffestau, Celfyddyd Cerameg Cymru, Ceramic Art York a Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion.

Rwy’n byw mewn man prydferth yng ngogledd Cymru a chaf fy nylanwadu gan gyfoeth byd natur a’r amgylchfyd diwydiannol. Mae ysblander lliwiau’r creigiau, y llechi a’r planhigion yn hudolus ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth ddiddiwedd.

Rwyf wrth fy modd yn adeiladu â llaw, yn enwedig yn allwthio clai, yn newid siapau rheolaidd, sgwariau, cylchoedd, hecsagonau ayyb o’u llinellau perffaith drwy eu hymestyn, rhwygo, marcio ac ychwanegu clai iddyn nhw i weld lle mae’n fy arwain! Ond hefyd rwy’n defnyddio deiau afreolaidd i adeiladu darnau cerfluniol ac yn archwilio’r ffurf caiff ei chynhyrchu gan y gofodau. Mae un agwedd yn fy nghyfareddu’n arbennig: mae cadw‘r aer allan o du mewn y silindr yn achosi i’r clai meddal symud yn organig yn ystod y tanio. Bydd hyn yn aml yn pennu ffurf derfynol y darn.

Mae gwydro yn faes arall sy’n llawn posibiliadau. Ar hyn o bryd rwy’n edrych ar wydreddau haearn sy’n cynhyrchu arwynebau du cyfoethog.

Rwy’n edrych ymlaen at ragor o anturiaethau cyffrous.