Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Stiwdio 2

Jack Crabtree

Ar Wal 25 Ionawr – 17 Mawrth 2024

………………………

Cyfres o gelfyddyd gain wedi’i saernïo
gan artistiaid Gogledd Cymru

Curadur y gyfres: Jonathan Le Vay

………………………

Bloc Tŵr

Ganed Jack Crabtree yn Rochdale ym 1938. Astudiodd yng Ngholeg Celf Rochdale o 1955 hyd 1957 cyn mynd ymlaen i Goleg Celf St Martin’s ac Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain.

Ers hynny mae wedi dilyn gyrfa arwyddocaol yn cyfuno dysgu â chymrodoriaethau niferus, comisiynau a dros saithdeg arddangosfa unigol o’i baentiadau, lluniau, gweithiau graffig, gwrthrychau a gosodweithiau yng Nghymru, Lloegr, yr Almaen ac Iwerddon yn benodol.

Ar ôl gadael yr Academi Frenhinol dysgodd mewn colegau celf rhanbarthol yn cynnwys Salford a Rochdale ac yna yng Nghasnewydd. Yn ddiweddarach cafodd ei benodi’n Athro Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Ulster yn Belfast o 1984 hyd at ei ymddeoliad o ddysgu ym 1994.

Ym 1974 comisiynwyd Jack Crabtree gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol i ddogfennu bywyd ac amodau gwaith glowyr ym meysydd glo de Cymru. Parhaodd y gwaith hwn drwy Gymrodoriaeth Gelfyddydau Gregynog Prifysgol Cymru. Ym 1977 ef oedd deiliad cyntaf Cymrodoriaeth Gelfyddydau’r Ruhr a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Ffederal yr Almaen a chreodd gofnod darluniadol o’r diwydiant dur yn Nyffryn y Ruhr. Ceir ei waith mewn casgliadau sefydliadau megis Amgueddfa Ulster, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Cymru ynghyd â dau baentiad cynnar yng nghasgliad celf Touchstones Rochdale.

Y pedwar paentiad ar bymtheg cyfrwng cymysg yn yr arddangosfa hon yw ei waith mwyaf diweddar ac maen nhw’n ffurfio rhan o’i gyfres newydd Bloc Tŵr. Maen nhw oll ar werth.