Oriel 2 & 3
Jessie Chorley
Canfod, Chwarae, Gosodwyd, Brodiwyd...Mae rhyw hynodrwydd yn perthyn i waith Jessie Chorley. Defnydd, pwyth, brodwaith, edafedd, lliw, delweddaeth: caiff pob elfen o’i gwaith creu eu hystyried. Caiff pob darn o ffabrig, cainc o fflos brodio ac ategolyn gwnïo ei ddewis am ei nodweddion cynhenid a’r atgofion a’r teimladau mae’n dwyn i gof. Mae ei defnyddiau, sydd wedi’u hestyn o law i law, eu ceisio mewn marchnadoedd hen bethau a siopau ail-law, yn lloffion gwerthfawr o fywyd sydd, o’u rhoi at ei gilydd, yn ffurfio sylfaen ei straeon brodwaith a’i thirluniau haniaethol personol iawn.
Mae motiffau’n atseinio ar draws y brodweithiau hyn sydd wedi’u pwytho’n ofalus mewn geirfa fwriadol gyfyng o dechnegau traddodiadol: pwyth hir, pwyth rhedeg, pwyth satin, pwyth hedyn, a chowtsio. Mae’r ddelweddaeth yn gyfarwydd, petheuach bob dydd ac o fannau cyffredin: y cartref, lamp gyda chysgod wedi’i oleuo, bwrdd, cadeiriau, coed, adar, ceffyl, planhigion, coesynnau, blodau, lleuad gorniog, yr afon, a chwch.
Enydau arwyddocaol sy’n dod i gof ac olion lleoedd, teithiau, digwyddiadau bywyd, pytiau o sgyrsiau, defodau dyddiol: dyma destunau gweithiau celf Jessie. Mae eu naratif yn ddarniog, nid yw straeon yn llinol, maen nhw’n gydbwysiad gofalus, wedi’u hadeiladu dros amser. Mae’r cyfeiriadau’n mynd yn ôl ac ymlaen, o blentyndod yng nghefn gwlad gogledd Cymru i’w chartref presennol yn Llundain ddinesig. Mae ei chasgliad mawr personol o wrthrychau, ffabrigau, edafedd, geiriau, dernynnau o blanhigion wedi’u canfod, blodau sych, oll wedi’u hel yn ystod bywyd yr artist yn borthiant ac yn ysbrydoliaeth gyson i Jessie. Maen nhw i gyd y cyfleu synnwyr o lwyrfeddiant mewn pwytho’r hyn sydd o’ch blaen. Mae gofyn sylw gofalus ac ymrwymiad y gwneuthurwr a’r gwyliwr ar y fath hon o waith. Mae’n gofyn i ni bwyllo, i graffu ac i roi o’n hamser.
Curadwyd gan June Hill