Stiwdio 2
Julia Griffiths Jones
Golwg ar Wneuthurwr PrintSgyrsiau â Gwrthrychau – Sgrin-brintio ar enamel a phapur
Yn ystod gaeaf 2021-22 cychwynnodd Julia Griffiths Jones ar gyfres o luniadau wedi’u hysbrydoli gan y gegin yn Llannerchaeron, tŷ Sioraidd yng Ngheredigion sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Daw ei hysbrydoliaeth yn gyson o ofodau domestig. Yn 2017 enillodd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn yr Eisteddfod Genedlaethol am Ystafell o fewn Ystafell, sef cegin a wnaed o wifren.
Yn ddiweddar cafodd gyfle i luniadu yn nhŷ Rembrandt yn Amsterdam a chafodd ei chyfareddu gan y casgliad eang o wrthrychau yn ei gegin a’i stiwdio. Cafodd ei rhyfeddu gan gasgliad arall hefyd: ‘Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld casgliad mwy fyth o wrthrychau – 71,000 i fod yn fanwl gywir – ar ddangos yng ngorsaf metro Rokin, a oedd wedi cael eu cloddio o’r afon Amstel. Roedden nhw wedi cael eu curadu a’u trefnu’n wych wrth i chi fynd i lawr y grisiau symudol i’r platfform.’
Ar gyfer yr arddangosfa hon mae hi wedi lluniadu’r teilchion a’r darnau a godwyd o’r afon Amstel a’u printio ar ddelweddau o’i hoff wrthrychau o Lannerchaeron ac Amsterdam gan ddefnyddio wynebau enamel a phapur er mwyn creu patrymau ac ystyron newydd.
www.juliagriffithsjones.co.uk Instagram : juliagriffithsjones