Stiwdio 6
Atgofion o Wrthrychau Bob Dydd
‘Sgynnoch chi hoff gwpan sy’n rhan o ddefod amser brecwast? Neu fowlen sy’n dod ag atgofion o berson neu wyliau sbesial?
Mae llestri yn rhan bwysig o’n cartrefi a’n bywydau bob dydd. Maen nhw’n adlewyrchu ein personoliaethau, ein diddordebau a’n diwylliant.
Mae’r arddangosfa ffenestr yn stiwdio 6 yn cynnwys enghreifftiau o nwyddau ceramig sy’n golygu rhywbeth i’r unigolion sydd wedi bod gweithio ar y gwanwyn eleni arddangosfeydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.
Pa eitemau fyddech chi’n eu dewis i ychwanegu at y casgliad?
Mewn cysylltiad ag arddangosfa Merched ar Lestri yn oriel 3