Oriel 2
Motive/Motif
Artistiaid yn Coffáu Merched y BleidlaisMae arwyddocâd y ddelwedd ar yr hances yn mynd ymhell y tu hwnt i’r gwrthrych brodio cymedrol hwn. Mae ei harddwch yn cuddio brwydr a dioddefaint y merched wrth ddatgelu eu cwlwm â’r gair brodiedig.
Arddangoswyr: Ghada Amer, Chila Burman, Anthony Burrill, Jo Cope, Dorothy Cross, Phoebe English, Molly Goddard, Mona Hatoum, Charlotte Hodes, Anne Howeson, Peter Kennard, Sarah Lucas, Heather Phillipson, Celia Pym, Daniel Ramos, Anila Rubiku, Francesca Smith, Helen Storey, Sage Townsend and Rachel Whiteread.
Curadwyd gan Charlotte Hodes ac Alison Moloney.
………………
I gyd-fynd ag arddangosfa Motive/Motif, byddwn ni hefyd yn dangos ffilm fer ynghyd â’r baneri a wnaed yn oriel Mostyn, Theatr Clwyd a Chanolfan Grefft Rhuthun ar gyfer PROCESSIONS – prosiect cyfranogaeth dorfol a gynhyrchwyd gan Artichoke ac a gomisiynwyd gan 14-18 NOW yn 2018.
Roedd PROCESSIONS yn adeg o ddathlu a myfyrio ac yn bortread byw o’r hyn mae’n golygu i fod yn fenyw heddiw. Ar ddydd Sul, 10 Mehefin 2018 wrth i ddegau ar filoedd o fenywod a merched ymgasglu i nodi canmlwyddiant y bleidlais i ferched ym Mhrydain, trawsnewidiwyd pedair prifddinas y DG, Belffast, Caerdydd, Caeredin a Llundain yn afonydd enfawr o wyrdd, gwyn a fioled.