Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Stiwdio 2

Nigel Morris

Gwneuthurwr Printiau mewn ffocws 18 Mai – 13 Mehefin 2023

“Dwi’n hoffi bod fy nghelf yn chwarae gyda’n synhwyrau gweledol, herio ein profiad o edrych a chynorthwyo’r syllwr i gwestiynu’r hyn mae’n gweld mewn darn o gelf.”

Mae printiau a dyfrlliwiau Nigel Morris yn chwarae â chanfyddiadau gweledol: o linellau organig, dolennog y gyfres Entangled, sy’n ymddangos fel petai nhw’n torchi a throi dros ac o dan ei gilydd i’r llinellau clir, geometrig y printiau adeiledig lle mae rhith gofod yn dod yn realiti wrth i’r printiau gael eu torri a’u llunio i ffurfio cyfres o sgwariau a phyramidiau. Tra defnyddir llinellau i greu rhith mewn rhai gweithiau, gydag eraill defnyddir lliw yn aml i greu dyfnder gyda lliwiau cryfion yn ymddangos fel petai nhw’n neidio allan a rhai mwy meddal, oerach yn encilio. Mae gwaith Nigel yn esblygu o haniaeth, cymesuredd a systemau, ac yn gyforiog o awgrymiadau o edeifion, planhigion a bywyd microsgopig.

Nigel Morris yw Cydlynydd Print y Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn Wrecsam lle mae’n dysgu ac yn arbrofi gyda thechnegau printio gwahanol, o ddarluniau cyfrifiadurol i brintiau leino ac ysgythriadau. Astudiodd yn Central Lancaster a Chaer ac Ysgol Gelf Caeredin a chyn hynny’n bu’n teithio’r byd fel artist addurnol.

“Tynnwch linellau, llawer o linellau, o’r cof ac o natur; dyma’r ffordd y byddwch yn dod yn artist da.” Jean Ingres