Oriel 3
Nodweddion Arwynebedd
Peter Bodenham / Miche Follano / Carolyn Genders / Sarah Jenkins / Hilary Mayo / Barry Stedman / Emily Stubbs / Craig Underhill / Rachel Wood
Gall arwyneb fod yn nifer o bethau pan fo’n gorff o glai; priddwaith, crochenwaith caled, porslen, clai pêl, caolin; yna mae’r slipiau, ocsidau, decalau a gweadeddau… mae’r rhestr yn hir. Mae arwyneb gwrthrych cerameg yn gallu cyfleu llawer o negeseuon gwahanol ac felly’n ennyn ymatebion amrywiol gennym ni’r gwylwyr. Yn wahanol i baentiad, fel rheol mae ar ffurf tri dimensiwn ac yn gallu cynnwys marciau dwfn. Fel cerflunwaith, mae pob troad yn datgelu golwg wahanol sy’n gallu bod yn gymhleth ac yn ddeniadol.
Fodd bynnag, gall yr arwyneb ddefnyddio’r heddwch a’r llonyddwch o’r ymdriniaeth leiaf, archwiliad ymholgar o wydredd gweadol neu drawiad i’r synhwyrau a’r llawenydd o ffrwydrad afieithus o liw. Mae arwynebau’n gallu llyncu a dal lliw drwy eu mandylledd, ac i’r gwrthwyneb, eu caniatáu i ddisgleirio fel gwydr. Mae gan grochenydd neu artist cerameg nifer o ffyrdd i fynegi ei feddyliau a’r hyn sy’n ei ysbrydoli.
Yn yr arddangosfa hon gwelwn waith gan naw artist cerameg ac i bob pwrpas yr arwyneb yw ei canfas. Yn y rhan helaeth o achosion mae gwaith ar ffurf tri dimensiwn sy’n cyfuno meistrolaeth eu creu a’r gwydro a’r addurno a ddaw wedyn yn arwain at effaith addurnol trawiadol. Mae rhywbeth ynglŷn â’r ffordd mae pethau’n gweithio ar wyneb darn cerameg nad yw’n effeithiol ar ganfas rhywsut. Mae uniongyrchedd a bywyd i’r addurn ac mae ganddo gyffyrddiadau sy’n anodd eu cyflawni ar arwyneb mwy traddodiadol y paentiwr. Yma mae rhai o’r artistiaid-gwneuthurwyr hefyd yn defnyddio arwyneb dau ddimensiwn er mwyn archwilio’u syniadau ac mae modd gweld enghreifftiau ochr yn ochr â’u gwaith cerameg – mae’n gyfosodiad difyr.
Yn ei hanfod mae Nodweddion Arwynebedd yn archwilio ymdriniaeth arluniol i addurno ffurf cerameg gan ddefnyddio’n bennaf llestr yn ganfas tri dimensiwn, ond nid hynny’n unig. Yn wahanol i baentiad mae’r ddelweddaeth yn llifo o amgylch y darn ac yn ailgysylltu â’i hunan mewn cyfanwaith cydnaws.
Gregory Parsons, Curadur