Oriel CELF
Profiad a Goruchafiaeth Gobaith
Paentiadau a lluniadau gan Helen JobPan oeddwn i’n ddeunaw oed ac ar gychwyn fy addysg gelf nid oedd gennyf unrhyw brofiad byddai’n llywio fy ymarfer celf. Digon digynnwrf oedd fy magwraeth wledig saff. Bellach, rhyw 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae gennyf rywbeth i’w ddweud.
Wrth i bawb ohonom ddilyn patrymau cydnabyddedig ar yr un pryd mae ein straeon ein hunain yn unigryw. Yn fy achos innau, ychydig o deithio, priodi, mamolaeth, gofalu, a gweddwdod. Taflwch i’r gymysgedd bandemig, a brofwyd gan bob un ohonom, a chanser bydd llawer ohonom yn ei brofi. Bydd gennym ni i gyd hanesion i’w hadrodd erbyn i ni gyrraedd ein chweched degawd.
I lawer, mae deffro bob dydd yn ddigon o gyflawniad. Rydym yn mynd i gysgu yn y gobaith y byddwn ni’n agor ein llygaid y bore trannoeth, daw’r wawr a byddwn yn ymwneud â’r byd. Gweithred o ffydd yw cau ein llygaid bob nos.
Mae’r paentiadau a’r lluniadau hyn yn ymwneud â bywyd a heneiddio a sut mae y gall hyn fod yn brofiad cyfoethog. Rydyn ni i gyd yn byw gan gydymffurfio ar y wyneb i normau cymdeithasol ond oddi mewn rydyn ni’n profi bywyd fel unigolion. Yn ein bywydau mewnol rydyn ni’n datrys ein problemau ac yn breuddwydio’r hyn yw ein bywydau a’r hyn gall ein bywydau fod. Mae’r gyfres hon o weithiau’n darlunio fy myd mewnol lle gall anrhefn deyrnasu, hapusrwydd lewyrchu a lle mae problemau’n cael eu datrys neu’n parhau’n bryder. Paentiadau o natur haniaethol ydyn nhw ond maen nhw’n dwyn eiconau, mapiau a’r bod dynol i’r meddwl ar lefel sydd bron yn gellol a greddfol.
Mae celfyddyd haniaethol yn cynnig i ni’r rhyddid i ddehongli’r gwaith drosom ni ein hunain. Rydyn ni’n dod â’n meddyliau a’n dychymyg i’r weithred. Cyn gynted ag y mae teitl ynghlwm â phaentiad rydyn ni’n cael ein harwain ar hyd llwybr sydd wedi’i pharatoi gan yr artist. Mae gan rai o’r gweithiau hyn deitlau ac maen nhw’n ymateb i gerdd neu rywbeth sydd o ddiddordeb i mi. Mae’r rhyddid gan y gwyliwr i’w dehongli yn parhau. Gwahoddiad yw’r rhai di-deitl i fyfyrio ac maen nhw’n agored i unrhyw ddehongliad yr hoffai’r gwyliwr ei wneud.
Helen Job
Curadwyd gan Jonathan Le Vay