Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

Ptolemy Mann

Osgo Wehyddol 5 Ebrill – 29 Mehefin 2025

Ers graddio o’r Coleg Celf Brenhinol bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, mae Ptolemy Mann wedi ymdrechu i ddatblygu ac adeiladu ar ei hymarfer tecstil wedi’i wehyddu, arallgyfeirio i ymgynghoriaeth ynghylch lliw pensaernïol, dylunio ffasiwn a ffabrig mewnol, fel y gwelwyd yn ei harddangosfa unigol fawr gyntaf yn Rhuthun yn 2011. Ers hynny, mae hi wedi mireinio’i hymarfer i’r safle unigryw neilltuol gwelwn yn arddangosfa hon yn awr. Mae hi’n artist-wehydd sydd wedi gwthio ffiniau’r hyn rydyn yn ei ystyried yn gelfyddyd gain a thecstilau.

Ers ymweliad (wedi’i chwennych ers tro) â Japan yn Ebrill 2024 mae hi wedi bod yn creu gwaith newydd mewn ymateb i’w phrofiad yno. Tirwedd Kyushu yn enwedig. Y fforestydd eang o fambŵ, blodau’n pylu a deiliach ynys drofannol, a’r tecstilau ikat synhwyrus pŵl wedi’u llifo â phridd, sydd i’w canfod ar Amami Oshima.

Curadwyd gan Gregory Parsons