Stiwdio 6
Rhiannon Gwyn
Cyfres Porthol Serameg…………….
Cyfres o waith crefft mewn ffocws gan
wneuthurwyr serameg Cymreig
Curadur y gyfres: Wendy Lawrence
…………….
Magwyd Rhiannon yn Sling ger Bethesda – pentref chwarelyddol yng Ngogledd Cymru, lle sydd wedi, ac sy’n parhau i ddylanwadu’n gryf ar ei hymarfer creadigol. Ers graddio yn 2019 o’r cwrs BA Artist Dylunydd: Gwneuthurwr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae ei gwaith grefft wedi’i gydnabod gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru wrth iddynt gaffael ei gwaith ‘Y Nefoedd yn Toddi i’r Tir’ ar ôl iddo gael ei arddangos llynedd yn eu harddangosfa ‘Rheolau Celf’ ac yn arddangosfa ‘Y Lle Celf’ (2024) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae llwyddiannau eraill yn cynnwys ennill gwobr Gwneuthurwr Newydd yn yr Ŵyl Cerameg Ryngwladol yn Aberystwyth (2023), cael ei dewis ar gyfer ‘Rhaglen Datblygu Talent’ British Ceramics Biennial (2022) a derbyn cyllid gan ‘Celfyddydau Rhyngwladol Cymru’ (2023) i fynd ymlaen a thaith ymchwil i’r Unol Daleithiau. Roedd ei sioe unigol gyntaf a arddangoswyd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn arddangos y gwaith a gynhyrchwyd fel rhan o’i phrosiect ymchwil a datblygu a ariannwyd gan gronfa ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru (2024).
‘Rwy’n cael fy ysbrydoli gan yr haenau gweladwy o liwiau, gweadau a deunyddiau amrywiol yn nhirwedd fy nghartref yn Eryri yn ogystal â’r haenau anweladwy, isymwybodol o hanes, treftadaeth ddiwylliannol, atgofion ac iaith. Trwy weithio gyda deunyddiau lleol, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn wastraff o brosesau a ddefnyddir gan ddiwydiannau a sefydliadau lleol, megis, llechi gan y chwarel leol, llwch eithin o brosiect clirio eithin Parc Cenedlaethol Eryri ar y Carneddau a chlai a ddarganfuwyd ar lannau afonydd, rwyf wedi bod yn archwilio sut y gall deunyddiau weithredu fel marcwyr hunaniaeth gan ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas, trwy argraffu emosiwn ar ein hamgylchfyd. Er mwyn dal yr haenau hyn rwy’n archwilio potensial llawn pigmentau amrwd y ddaear trwy wneud gwydredd naturiol a’u defnyddio yn fy ngwaith a hefyd trwy roi’r llechen drwy’r broses o fetamorffosis.’