Oriel 2
Sue Hiley Harris
Dadorchuddio GwehydduMae Dadorchuddio Gwehyddu, arddangosfa o waith diweddaraf y cerflunydd-wehydd Sue Hiley Harris, yn datgelu ei diddordeb mewn strwythurau arbrofol wedi’u gwehyddu a defnyddiau wedi’u tynnu o’r hyn sy’n cyfateb i systemau gwreiddiau organig. Wrth ddefnyddio gwifrau arian a chopr, edafedd papur a lluniadau haniaethol o ddefnydd organig, mae Sue yn pwysleisio gwerth amgylcheddol yr hyn sy’n gudd o dan y ddaear.