Gofodau Prosiect Cwrt A a B
Susan Milne: Tir
Golwg ar Wneuthurwr PrintMae Susan Milne wedi byw yn ardal y Mynydd Du ers dros ddeugain mlynedd ac wedi gweithio yn y tir ac o’r tir o’i chwmpas – i ddechrau o’i ffermdy diarffordd islaw’r Twmpa ac yna’n hwyrach o’i stiwdio mewn caban bugail yn Nyffryn Ewias. Mae hi bellach yn gweithio o’i stiwdio ar odre’r mynyddoedd yng ngolwg Mynydd Troed a dyma destun ei chyfres o luniadau’r cyfnod clo.
Mae’r lluniau siarcol yn cyfleu presenoldeb aruthrol y mynyddoedd yn ogystal â’r golau sy’n tywynnu drwy’r isdyfiant o gwmpas yr afon Ennig ger ei chartref. Gwnaed y lluniadau inc rhwydd yn ystod y cyfnod clo pan oedd hi’n mynd am dro bob dydd. Ac yna cawsant eu gosod yn ffenestr flaen ei thŷ a hynny er mwyn i’r sawl a oedd yn mynd heibio eu gweld wrth iddynt hwythau fynd am dro yn y mynyddoedd. Gyda llawer o’i monobrintiau mae hi wedi edrych ar y ddaear dan ei thraed yn hytrach nag ar ehangder ei hamgylchfyd ac mae hi wedi ymgorffori pridd go iawn o’r mynyddoedd yn ei phrintiau. Gan ddibynnu ar y cyfansoddiad daearegol mae arlliw’r rhain yn amrywio ac mae hi’n cadw cofnod gofalus o’r union leoliadau o amgylch ei chartref ac yn Sir Ddinbych. Crëwyd peth o’r gwaith megis y Broken Boundary series tu allan yn y gwynt a’r glaw ac mae’r papur wedi’i anffurfio a’i dyllu gan falurion naturiol sydd wedi’u hymgorffori yn y broses brintio.
Mae’r bardd a’r awdur arobryn Owen Sheers yn byw ger Susan Milne yng nghanolbarth Cymru ac yn yr un modd yn cael ei ysbrydoli gan y Mynyddoedd Duon. Mae wedi dewis rhai o’i gerddi i gyd-fynd â’r gweithiau yn yr arddangosfa.