Gofodau Prosiect Cwrt A a B
Trosi Grymoedd
Mae Trosi Grymoedd yn gydweithrediad rhwng basgedwyr, anthropolegwyr a mathemategwyr. Mae ein prosiect yn canolbwyntio ar sut mae’r sgiliau llaw a ddefnyddir wrth wau basgedi yn medru cyfoethogi ein dealltwriaeth geometreg a gofodol – sut mae dysgu basgedwaith yn medru cynorthwyo pobl i ddeall geometreg ac agweddau eraill mathemateg. Mae hyn yn cynnwys datrys problemau, ymwybyddiaeth ofodol a meddwl yn arloesol.
Gydag addysg yn cael ei lilinio ac yn mynd yn fwyfwy digidol mae pryder bod llawer o sgiliau llaw’n cael eu ystyried yn amherthnasol i agweddau dysgu eraill erbyn hyn. Mae ein hastudiaeth ni’n awgrymu bod sgiliau llaw yn elfen bwysig o sgiliau dysgu dynol. Mewn geiriau eraill, mae gwneud pethau’n darparu pont weithredol i ddeall gofod, geometreg a grymoedd amgylcheddol, ac mae’n arf pwysig wrth ddysgu cysyniadau mathemategol, dylunio a pheirianneg.
Rydym ni hefyd wedi bod yn ystyried bod ymateb dynol yn wahanol i’r mathau o ymatebion a deilliannau a gynhyrchwyd gan beiriannau. Felly, mae gweithio â deunyddiau a thechnegau llaw yn darparu gwahanol fathau o wybodaeth o’i gymharu â gweithio’n abstract yn unig, ‘myfyrio ar bethau yn ein pennau.’ Mae ein gwaith ni’n cynnwys y cof, rhythm, dealltwriaeth gyffyrddol, sgil a gwybodaeth am ddeunyddiau a thechnegau.
Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd ers mis Mawrth 2020. Rydym ni’n cynnal treialon stiwdio (wyneb yn wyneb ac ar-lein) i ymchwilio i’n themâu. Rydym ni’n defnyddio gwneud, lluniadu, darllen, trafodaeth ac arferion mathemategol fel llunio diagramau a thorri allan i ymchwilio i sut y gall syniadau mathemategol newydd ymddangos. Mae ein themâu’n cynnwys plethu rownd corneli, crymedd, gwneud llinellau, dolennu, cymesuredd drych, topoleg, clymau ac arwynebau, a rôl deunyddiau a thechnegau mewn meddwl geometreg. Cynhaliwyd ein treialon mwyaf diweddar yn y Casgliad Botaneg Economaidd yng Ngerddi Kew lle buom yn defnyddio deunyddiau a ffurfiau o’r Ardd Esblygiad, y Tŷ Palmwydd a’r Gerddi Bambŵ i ymchwilio i fathemateg mewn gwahanol fasgedi yn eu casgliad.
Mae’r grŵp yn cynnwys yr anthropolegydd tecstilau Dr Stephanie Bunn, anthropolegydd technolegau’r dyfodol, yr Athro Cathrine Hasse, addysgwr mathemategol, yr Athro Ricardo Nemirovsky, myfyrwyr doethuriaeth mathemateg Charlotte Megroureche a Tam Dibley, a’r basgedwyr Mary Crabb, Hilary Burns a Geraldine Jones. Byddwn yn cynnal ein treialon stiwdio yn Rhuthun rhwng 18 a 21 Hydref pan fyddwn ni’n canolbwyntio ar dechneg a lliw mewn patrymau basgedwaith.
Mae Trosi Grymoedd yn prosiect ymchwil APEX a gyllidir gan y Gymdeithas Frenhinol ac Ymddiriedolaeth Leverhulme, gyda chefnogaeth Prifysgol St Andrews, Cwmni Anrhydeddus y Basgedwyr a Chymdeithas y Basgedwyr.