Stiwdio 2
Y Stiwdio Brint
Mae’r arddangosfa hon o dechnegau argraffu eang wedi’i hymestyn i gyd-fynd â’n sesiwn argraffu ragarweiniol gyntaf.
Mae gwneud printiau yn ymwneud â thechnegau crefft amrywiol, lle mae pren, leino, neu fetel yn cael ei gerfio, ysgythru, dorri neu’i baentio, cyn bod inc yn cael ei drosglwyddo o un wyneb i’r llall er mwyn creu delweddau lluosog. Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar y ffyrdd y mae artistiaid wedi defnyddio ystod o brosesau printio, o ddulliau canrifoedd oed i dechnolegau digidol, i gynhyrchu delweddau gwahanol iawn.
Dyma’r arddangosfa brint gyntaf yn Rhuthun mewn cyfres a fydd yn craffu’n agosach ar y cyswllt rhwng crefft a gwneud printiau. Mae’r arddangosfa’n cyflwyno artistiaid sefydledig megis David Nash, Laura Ford, Clare Woods a Sue Williams yn ogystal ag egin artistiaid Cymreig neu rai sydd â chysylltiad â Chymru, gan gynnwys Molly Rooke, Melissa Rodrigues a Coral Williams.
Curadwyd gan Ann Jones.
Mae rhagor o brintiau i’w cael yn yr ardal werthu. Emma Aldridge, Paul Coldwell, Emily Cook, Angela Davies a Mark Eaglen, Rose Davies, Tara Dean, Antonia Dewhurst, Alex Duncan, Hannah Firmin, Laura Ford, Charlotte Hodes, Des Hughes, Steffan Jones-Hughes, Sarah Garvey, Tom Goddard, Catrin Grosse, Flora McLachlan, Nigel Morris, Rhi Moxon, David Nash, Jeanette Orrell, Jamie Reid, Melissa Rodrigues, Molly Rooke, Léa Sautin, Coral Williams, Emrys Williams, Sue Williams, Craig Wood, Craig Wood a Peter Finnemore, Clare Woods.