Gweithdy I rai 12–18 oed
Gweithdy a chyflwyniad Yusuke Yamamoto
WEDI DOD I BEN 13 Gorffennaf
AM DDIM
Gallwch archebu drwy Eventbrite yma
Gweithdy ymarferol byr a chyflwyniad gyda’r gof arian Yusuke Yamamoto a’r bardd Cymraeg Elinor Gwynn.
Sesiwn bore: 10.30am – 12.30pm neu
Sesiwn prynhawn: 1.30pm – 3.30pm
Wedi’i ysbrydoli gan garreg ‘Rosetta’, mae enwi’r rhannau yn brosiect geirfa sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Bydd ein gof arian Yusuke yn gweithio gyda’r bardd Cymraeg Elinor Gwynn ar y gweithdy cydweithredol hwn. Bydd Elinor ac Yusuke yn dechrau’r gweithdy gyda sgwrs a chyflwyniad o’u harferion priodol a sut y daeth y cydweithio hwn i fodolaeth.
Yna bydd Yusuke yn dechrau’r gweithdy ymarferol trwy arddangos y technegau y mae’n eu defnyddio ar gyfer gwneud marciau gydag arian. Yna, gan ddefnyddio offer gof arian, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn ‘mynd ar ôl’ eu dewis eiriau ar ddalennau alwminiwm tenau. Bydd pob cyfranogwr yn mynd â’u ‘geirfa’ eu hunain o eiriau Cymraeg, Saesneg a Japaneaidd wedi’u morthwylio adref gyda nhw.
Ar ddiwedd y gweithdy bydd cyfle i weld gwaith Yusuke ym mhrif ystafell arddangos Canolfan Grefft Rhuthun.
“Mae fy ngwaith yn adrodd straeon am y wlad sydd bellach yn gartref i mi, wedi casglu delweddau o arsylwi cnawdolrwydd natur, trwy luniadu a gwneud. Gyda Llwybr Defaid des i ar draws marciau tir ger fy nhŷ, wedi eu gwneud gan ddefaid! Arweiniodd eu patrwm hardd afreolaidd ond ailadroddus at y bicer hwn. Mae’r hyn rwy’n ei greu yn cael ei ddylanwadu gan fy nghefndir Japaneaidd ac amrywiaeth fy mywyd nawr yng Nghymru.”