Dod â phobl ynghyd drwy’r gelfyddyd o greu!
Dewch i ymuno â ni am ychydig oriau ar fore Gwener, o 10yb – 12yp neu yn y Prynhawn o 1yp – 3yp drwy dymor y gwanwyn. Gyda chymorth paned da o de neu goffi (ac ambell fisged!)
Bydd y sesiynau crefft therapiwtig ac ysbrydoledig hyn yn eich cyflwyno i brosesau gwahanol o greu mewn perthynas â chrefft gan ddefnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau y gellir eu defnyddio fel modd i lacio’r meddwl ac ail-gysylltu â’n hunain.
Bydd bloc 6-wythnos yn cyd-daro â phob arddangosfa gyda phob bloc yn cynnwys gwneuthurwr gwadd i arwain sesiwn ymarferol wedi’i seilio ar waith crefft yn y prif orielau.
Mae hwn yn gyfle i chi roi ychydig o amser i chi eich hunan i fod yn greadigol mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol, ‘dim methiant a dim beirniadaeth’.
Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ar fwynhau’r broses ac nid o reidrwydd ar ddarn gorffenedig o waith.
………..
Bloc Pedwar
Ar gyfer ein 4ydd bloc byddwn yn gweithio gyda chlai. Cewch gyfle cyffrous i archwilio natur amryddawn y cyfrwng hwn wrth greu anifeiliaid ac adar llawn cymeriad. Yn tynnu ysbrydoliaeth o arddangosfa gyfareddol Susan Halls ‘Brathu’n Ôl’ yn y prif orielau.
Dyddiadau dydd Gwener 12, 19, 26 Ebrill & 3, 10, 17 Mai 2024
Gwneuthurwr Gwadd: Bydd argraffydd Eleri Jones yn ymuno â ni ar 26 o Ebrill
………..
Sut i archebu
Hoffem adael chi wybod y byddwn yn cymryd archebion ar gyfer ein set nesaf o sesiynau ‘Crefft sy’n Gofalu’ ar ddydd Iau 4 Ebrill o 11yb trwy Eventbrite yn unig.
Sylwer: Ni chymerir archebion cyn y dyddiad a’r amser hwn.
Byddwch yn gallu archebu drwy’r ddolen isod, sydd hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y prosiect.
Cofiwch adnewyddu’r dudalen we ar ôl 11yb ar y 4ydd o Ebrill i ganiatáu i’r tocynnau ymddangos.
Oherwydd y newidiadau newydd ar Eventbrite mae gan bob sesiwn nawr dudalen ei hun a bydd angen i chi archebu eich lle ar BOB dyddiad yr hoffech chi fynychu.
Gallwch archebu drwy Eventbrite yma
………..
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Archebwch cyn gynted â phosibl i osgoi cael eich siomi – maen nhw’n boblogaidd iawn! Gallwch fynychu cynifer o sesiynau ag ydych chi’n dymuno. Rydym yn argymell eich bod yn mynychu mwy na 3 sesiwn gan fod pob sesiwn yn cysylltu â’r nesaf. Does dim angen profiad, darperir yr holl ddefnyddiau a’r offer
………..
Rhaglen CREFFT LLES er mwyn annog pobl i bwyllo ac i ymgysylltu â CHREFFT a hefyd nhw eu hunain er mwyn hybu eu llesiant.
Gwnaed prosiect CREFFT LLES yn bosib drwy gyllid a dderbyniwyd gennym gan Gyngor Celfyddydau Cymru – Celfyddydau, Iechyd a Lles y Loteri.