Preswyliadau
Dewch i gyfarfod â’n hartistiaid preswyl cyfredol!
Mae rhaglen preswyliad Canolfan Grefftau Rhuthun a ariennir gan grant yn cynnig cymorth i wneuthurwyr drwy eu darparu â gofod stiwdio am gyfnod penodedig i ddatblygu syniadau a chyfleoedd creadigol newydd. Mae eu stiwdios ar agor i chi eu fforio ar adegau arbennig yn ystod pob preswyliad ac maen nhw’n aml yn gysylltiedig ag agweddau ar ein rhaglen Addysg hefyd.
Eisoes mae detholiad cyfoethog ac amrywiol o wneuthurwyr wedi bod yn artistiaid preswyl Canolfan Grefftau Rhuthun. Ewch i’r adran Archifau yma i weld cyfranogwyr y gorffennol.
Edrychwch ar ein gwefan yn rheolaidd i gael diweddariadau ar breswyliad.