Bethan M. Hughes
Ionawr - canol Chwefror 2024Gofod Prosiect Cwrt A
Iaith, diwylliant a hanes Cymru yw gwraidd ysbrydoliaeth Bethan – yr angen i ddweud stori, i daflu golau ar ddarn bach o’n hanes, ac i hysbysu’r rheiny sydd ddim yn gwybod y stori hyd yma. Mae’n gweithio â chyfrwng ffabrig a phwythau, yn cynhyrchu cwiltiau tair haen o ffabrig wedi’i brintio a’i incio gyda phwythau trwchus peiriant a phwythau llaw i greu gweadedd. Mae’r gwaith yn gyfrwng ar gyfer sgyrsiau am ein dyfodol.
Beth am alw i mewn i weld Bethan wrth ei gwaith a gofyn ychydig o gwestiynau?